top of page

CV

Cynllunydd cymwys a phroffesiynnol, gyda profiad o ddulliau gwahanol o gyflwyno cysyniadau gweledol a chreadigol

Dylunydd SeT

Theatr / Perfformio

Croeso i Baradwys / Sioe Gerdd gan Hywel Pitts GCYGaM, Galeri 2025

Q-Fforia, production designer 2025

Y DEWIS Jones the Dance, production designer 2023

Ffenest Siop, Theatr Bara Caws 2023 a 2025

Tresor      Perfformiad "ar safle" ar gyfer ffilm fer i'r gantores Gwenno Saunders- Ar daith Hydref 2022

Curtain Up, Theatr Clwyd 2021

Gwrach yr Ia,  Theatr Clwyd a Pontio 2021

Y Trol nath ddwyn y ‘Dolig,  Theatr Clwyd a Pontio 2020

Yfory,  Theatr Bara Caws  

(enwebiad am y dyluniad gorau yng Ngwobrau Theatr Cymru 2018)

Wythnos yng Ngymru fydd, Opra Cymru 

(enillydd cynhyrchiad gorau yng  Ngwobrau Theatr Cymru 2018)

Garw,  Theatr Bara Caws (cyd-gynllunydd)

(enillydd cynhyrchiad gorau yng  Ngwobrau Theatr Cymru 2017)

Llanast, Theatr Bara Caws (cyd-gynllunydd)

William Bulkeley o’r Brynddu,   Cwmni Pendraw

SBECTOL,  Cwmni Fran Wen

Shabwm,  Cwmni Fran Wen

Hwyliau’n Codi, Theatr Bara Caws

Ffilm

Bloteuwedd Ffilm fer ar gyfer Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, iw dangos yng Nghynhadeledd COP26, Glasgow 2021

Teledu ac Is-Gynhyrchydd

Fferm Ffactor,  Rhaglen Adloniant ysgafn, Cwmni Da i S4C

Wild Things,  Cyfres Natur, Cwmni Da i Sianel 4 

Cynyrchiadau Teledu (engrheifftau o 2020-2025)

Busnes Bwyd/ Rhaglen Adlonianyt Ysgafn/Busnes Capten Jac 2025

Tŷ Ffitcyfres Iechyd a ffitrwydd, Cwmni Da S4C 2025

Y SIOE, Set ar gyfer darlledu yn yr awyr agored o Sioe Amaethyddol Llanelwedd, Boom 2022/3/4/5

Sêr Steilio, cyfres Steilio a crefftio, YETI Media 2023 (enillydd BAFTA 2025)

Paranormal/ the Girl, the Ghost and the Gravestone, Twentytwenty productions/Warner Brothers  for BBC 3 / Art Director

Ffit Cymru,  cyfres Iechyd a ffitrwydd, Cwmni Da S4C 2018-23

Canu gyda fy Arwr,   Rhaglen Adloniant ysgafn, Cwmni Da, S4C 2021-23​

Yr Wyl Gerdd-dant, Adloniant ysgafn, Rondo 2022

Eisteddfod Maggi Maggi, Gardd Maggi yn yr Eisteddfod, Boom 2022+2023

Yr Academi Felys, Rhaglen Fwyd, Cwmni Da, S4C 2021-2

Bravo Two Charlie, Leopard Productions, BBC 2021​

Calan Gaeaf Carys Eleri, Captain Jac, S4C 2021​

BEX Cyfres blant, Ceidiog S4C 2021​

Priodas Pum Mis Byw, Boom Cymru, S4C 2021​

Y Siwdio Grefftau,  Rhaglen Gelfyddydol, Boom, S4C

Cyfres Fferam Noggi,  Rhaglen Adloniant ysgafn, Boom, S4C

Sioe Nadolig Maggi Noggi,   Rhaglen Adloniant ysgafn,  Boom, S4C

Cofio Nadolig Teulu ni,   Rhaglen ddrama ddogfennol, Darlun TV, S4C

Dylunydd a Gwneuthriwr 

Sblij a Sbloj, Creu cymeriadau mascot, Cwmni Da, S4C

Darlunydd 

Teulu Ni,  Rhaglen ddogfennol ysgafn, Cwmni Da, S4C

It’s an Education Rhaglen ddogfennol, Darlun, BBC

Dylunydd Gwisgoedd

Theatr Bara Caws: 2013-2021

Byd Dan Eira, Dawel Nos,Draenen Ddu, Lleu Llaw Gyffes , Costa’ Byw, Dwyn i gof, Brêcshit, Dim Byd Ynni, Raslas Bach a Mawr,  Hogia Ni, Difa, No wê, Un fach arall , Dros y Top , Te yn y Grug , Cyfaill, Pum cynnig, 

Ga i Fod? 

Dylunydd mewnol/adeiladau cyhoeddus

NYTH- Frân Wen

Dylunydd dodref a dodrefn meddal 2023

Cydweithio â Takuya Oura o Manalo & White Architects ar ddylunio mewnol y ganolfan theatr ieuenctid. Roeddwn yn gyfrifol am ddylunio dodrefn a'r dodrefn meddal wedi’u dylunio ar gyfer  anghenion yr aelodau ifanc o'r cwmni. Canolbwyntiais ar greu gofod ifanc ei naws, creadigol a chroesawgar, wedi’i ddatblygu drwy gyfathrebu a gwranodo ar aelodau ifanc y grŵp theatr. Cafodd pob elfen ei dylunio gyda hygyrchedd mewn golwg, gan greu amgylchedd diddorol, hyblyg ac amlddiwylliannol sy’n cefnogi creadigrwydd a chydweithio o fewn y grŵp theatr.- Enillydd Y Fedal Aur am Bensaerniaeth Eisteddfod Wrecsam 2025

Theatr Clwyd Redevelopment project 

Ardal Chwarae 2021-dal ymlaen

Dyluniais ardal chwarau llawn dychymyg a hud yn yr adeilad newydd fydd yn agor yn Hydref 2025. Bu'n brosmes o gweithio’n gydweithredol ac yn hyblyg gyda'r penseiri, adeiladwyr a’r tîm creadigol, gan ystyried anghenion y gymuned leol i greu gofod hudolus sy’n ysbrydoli creadigrwydd ac dychymyg. Mae’r ffocws ar greu amgylchedd hwylus a chroesawgar lle gall plant archwilio, chwarae, a theimlo’n rhan o fyd hudolus a dychmygus y theatr.

Nant Gwrtheyrn

Ymgynghorydd Dylunio Mewnol i Nant Gwrtheyrn 2025–yn parhau
Comisiwn fel Ymgynghorydd Dylunio Mewnol ar gyfer y ganolfan dreftadaeth a’r iaith Gymraeg. Roeddwn yn gyfrifol am ail-ddylunio’r gofod siopa ar y safle, gan ganolbwyntio ar wella teimlad, llif ymwelwyr, a dylunio gweledol i arddangos nwyddau Cymreig. Yn y cam nesaf, byddaf yn edrych ar ymgorffori a dangos celf Gymraeg o fewn y bythynod sydd wedi’u hadfer ar y safle, gan sicrhau bod gwaith artistiaid Cymreig cyfoes yn cael ei arddangos a’i ddathlu’n. Bydd y canlyniad yn arddangos y diwylliant Cymreig sy’n greiddiol i  Nant Gwrtheyrn ac yn dathlu treftadaeth Cymru drwy iaith a dylunio.

Theatr Clwyd canolfan groeso 2022

Dyluniais ardal "foyer" dros dro i groesawu ymwelwyr tra roedd Theatr Clwyd yn cael ei ail-ddatblygu. Y nod oedd creu gofod agored a deiniadol a fyddai’n teimlo’n groesawgar ac yn gysurus. Canolbwyntiais ar wneud y gofod yn ymarferol ac yn hawdd i bawb ei ddefnyddio, gan gynnwys pobl ag anghenion symudedd. Roedd fy ngwaith yn ystyried ymarferoldeb ar y cyd gyda steil, gan ddarparu man cysurus i ymwelwyr ymgynnull ynddo a rhoi argraff gyntaf groesawgar, tra hefyd yn cefnogi ymrwymiad y theatr i gynhwysiant a'u cymuned.

digwyddiadau ac arddangosfeydd 

DYLUNYDD

Castell Penrhyn- Ail Fframio Dylunio gofod i arddangos prosiect "Ail-fframio" o fewn Neuadd Fawr Castell Penrhyn

CANFAS Galeri, Celf Cyhoeddus/Public art 2024

Yr Ysgwrn,  Dylunio arddangosfa i ddathlu gwaith celf wedi ei ysbrydoli gan Yr Ysgwrn / design exhibition celebrating art inspired by Yr Ysgwrn 2023

Eisteddfod yr Urdd  2017-2025

Contract i ddylunio a chreu agweddau gweledol diddorol ar gyfer rhannau penodol o'r maes. Y prif waith oedd datblygu brandio a chreu awyrgylch a phwrpas ar gyfer tair rhan benodol o'r Maes yn Eisteddfod Sir y Fflint, sef Y Tipi, Y Llwyfan Berfformio, a Pentre Mistar Urdd, yn ogystal â brandio cyffredinol o amgylch y Maes. Yn ogystal ac ardal newydd gerddorol/gelfyddydol "Garddorfa"

Theatr Clwyd

Outdoor stage, Summer programme Theatr Clwyd 2021

"Hiraeth amTheatr Fyw" / "Missing Live Theatre"  Campaign Theatr Clwyd 2020

Gwyl Deulu Theatr Clwyd / Family Arts Weekend

Theatr Clwyd Derbynfa / Foyer 2020

Safle rhaglen tu-allan Theatr Clwyd / Outdoor programme site 2020

Carafan Airsteam Caravan- Theatr Clwyd, Promotional Vehicle

Contract i gynllunio derbynfa y Theatr, creu arwyddion ac addurniadau ar gyfer ail-agor i’r cyhoedd gan ddilyn canllawiau pellter cymdeithasol.

Adeilad S4C  2022

Cynllunio Arddangosfa er côf am Dai Jones adeilad S4C ar faes Y Sioe Amaethyddol yn Llanelwedd

Bara Caws 2021

Cynllunio Arddangosfa er côf am y dramodydd Siôn Eirian. Galeri, Caernarfon

Urdd Gobaith Cymru 2014-3

Ail-ddylunio Pentre Mistar Urdd. ‘Roedd nifer o ffactorau i’w hystyried wrth gynllunio’r ardal, gyda ffocws penodol ar gadw o fewn canllawiau brandio’r Urdd wrth greu awyrgylch lliwgar a diddorol.

Stondin Morlais - Eisteddfod Genedlaethol Môn 2017

Dylunio stondin a darluniau ar gyfer stondin Morlais ym Mhafiliwn Gwyddoniaeth yr Eisteddfod

Menter Mon- Eisteddfod Genedlaethol Môn 2017

Dylunio a chydweithio a chwmni graffeg i greu brand newydd ar gyfer delwedd stondin Menter Môn yn yr Eisteddfod ar y cyd â’r Mentrau Iaith Gymraeg

Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol- Eisteddfod yr Urdd 2017

Dylunio ac adeiladu stondin ar gyfer y Ganolfan Dysgu Iaith Gymraeg yn y Ganolfan Groeso yn Eisteddfod yr Urdd, yn unol â'u canllawiau brand caeth y sefydliad.

Addysg

1994- 1997    2:1 BA 3DDesign- Cynllunio Theatr, Prifysbol Canolbarth Lloegr, Birmingham

1992 -1993    Cwrs sylfaen celf, Coleg Cenedlaethol Celf a Dylunio, Dulyn

Copyright Lois Prys 2025

bottom of page